Free e-mail: yourname@jakujam.com

Rhannwch_eich_Cymraeg

Llyfryn yw hwn i\'ch cynorthwyo chi fel siaradwyr Cymraeg i annog a chefnogi dysgwyr. Cewch chi gymorth hefyd, os dymunwch, i roi sglein ar eich Cymraeg. Ar hyn o bryd, mae dros 20,000 o bobl yn dysgu Cymraeg ac mae\'r nifer yn cynyddu\'n flynyddol. Felly pam na wnewch chi ymuno â nhw i wella safon eich iaith chi, neu beth am annog cyfaill neu aelod o\'r teulu i fynd ati i ddysgu er mwyn sicrhau bod yr iaith yn mynd o nerth i nerth. Os ydych chi eisoes yn siarad Cymraeg, pam na wnewch chi ddysgu\'r iaith i eraill fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. \nGawsoch chi addysg Gymraeg, ond erbyn hyn wedi colli rhywfaint o\'r iaith? Neu ydych chi wedi dechrau dysgu fel oedolyn, ond wedi rhoi\'r gorau erbyn hyn? Pam na wnewch chi ail-afael yn y Gymraeg a mynd i ddosbarthiadau i wella\'ch safon. Mae cyrsiau ar lefelau uwch i\'w cael yn arbennig ar eich cyfer chi. Cysylltwch â\'ch canolfan Cymraeg i Oedolion leol am fwy o wybodaeth.
Embed Code for MySpace & Facebook:

Add Your Comments for Rhannwch_eich_Cymraeg


Your Name:

Your Review: